Donate
Looking for eating disorder support in your area? Visit HelpFinder

Adolygiad gwasanaeth anhwylder bwyta yng Nghymru - 3 blynedd yn ddiweddarach

Gwnaeth adolygiad 2018 o wasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru 22 o argymhellion uchelgeisiol gyda'r weledigaeth o sicrhau cyfraddau canfod cynnar a mynediad cyflym at driniaeth yn seiliedig ar dystiolaeth ym mhob rhan o Gymru.  Roedd yr argymhellion yn cynnwys cyflwyno targedau amser disgwyl penodol ar gyfer pobl o bob oedran a sicrhau bod cleifion a’u teuluoedd/gofalwyr yn cael yr holl wybodaeth berthnasol ac yn cael eu cefnogi’n briodol.

Ond tair blynedd yn ddiweddarach, mae cynnydd wedi bod yn araf ac rydym yn parhau i ddisgwyl am gynllun i gyflawni’r weledigaeth ledled Cymru.

“Prin fod unrhyw gefnogaeth yn ein hardal, ac nid yw’r hyn sydd gennym i’w weld yn gweithio." Gofalwr

Ers cyhoeddi'r adroddiad, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith hynod o ddifrifol ar bobl ag anhwylderau bwyta. Mae wedi arwain at lawer mwy o bobl yn ceisio triniaeth a mwy o bwysau ar glinigwyr a gwasanaethau. Mae hyn yn golygu bod angen cynnydd gyda hyd yn oed mwy o frys wrth ehangu a gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta.

Mae ein hadroddiad newydd, 'Adolygiad Gwasanaeth Anhwylderau Bwyta Cymru: 3 blynedd yn ddiweddarach', yn canfod, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud i ehangu a gwella gwasanaethau yng Nghymru ers 2018, bod y cynnydd hwn wedi bod yn araf ac yn anwastad, gan barhau i fod yn anhrefnus iawn.

Rhaid inni ddwyn y rhai sy'n gyfrifol i gyfrif, a gofyn iddynt beth sy'n cael ei wneud i sicrhau y gall pawb yng Nghymru sydd angen triniaeth ar gyfer anhwylderau bwyta gael gafael ar gymorth yn gyflym.  Rydym wedi ysgrifennu llythyr agored at y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, yn amlinellu canfyddiadau'r adroddiad ac yn rhoi gwybod iddo fod yn rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth frys. Mae angen iddo wybod nad Beat yn unig sy'n galw am newid, mae angen i chi sefyll gyda ni.

Po fwyaf o leisiau, po uchaf fydd ein cloch.

Ni allwn barhau i ofyn y cwestiynau hyn ymhen 3 blynedd. Mae angen i ni weithredu nawr.

Llofnodi’r llythyr

Adolygiad Gwasanaeth Anhwylder Bwyta yng Nghymru - 3 blynedd yn Ddiweddarach (2021)

Mae'r adroddiad hwn yn asesu’r cynnydd sydd wedi’i wneud wrth ehangu a gwella gwasanaethau anhwylderau bwyta ledled Cymru mewn ymateb i adolygiad gwasanaeth anhwylder bwyta 2018. Mae’n nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru i sicrhau cynnydd mwy cyfartal ledled Cymru.

Adolygiad Gwasanaeth Anhwylder Bwyta Llywodraeth Cymru (2018)

Comisiynwyd adolygiad annibynnol gan Lywodraeth Cymru. Mae’n cynnig cyfrif manwl o wasanaethau anhwylder bwyta ledled Cymru ac yn nodi gweledigaeth yn seiliedig ar ymyriadau cynnar, triniaeth arbenigol a chefnogaeth ar gyfer teuluoedd a gofalwyr eraill.